Telerau ac amodau
Mae Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu/Construction Industry Training Board a adnabyddir fel arall yn SgiliauAdeiladu/ConstructionSkills yn elusen gofrestredig (Rhif Elusen 264289) gyda’i brif fan busnes yn Bircham Newton, King’s Lynn, Norfolk, PE31 6RH.
- Defnyddio gwefan y Safle
Mae cyfeiriadau at ‘chi’ ac ‘eich’ yn gyfeiriadau at y personau sy’n cyrchu’r Safle. Mae cyfeiriadau atom ‘ni’ ac ‘ein’ yn gyfeiriadau at Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu.
Cedwir www.ckills.org (a elwir ar ôl hyn ‘y Safle’) ar gyfer i chi ei ddefnyddio a’i weld yn bersonol. Mae cyrchu a defnydd y Safle gennych chi yn cyfrif fel derbyniad o’r Telerau ac Amodau a ddaw i rym o’r dyddiad pan ddefnyddiwch y Safle.
Medrwn ni ddiwygio’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd heb roi rhybudd. Gofynnir i chi wirio’r rhain bob tro y defnyddiwch y safle. Rydych chi’n cytuno i adolygu’r Telerau ac Amodau yn rheolaidd ac mae parhau i ddefnyddio’r Safle hwn yn golygu eich bod chi’n cytuno i unrhyw newidiadau.
Mae’r Telerau ac Amodau hyn i gael eu darllen gennych chi ynghyd ag unrhyw delerau, amodau ac ymwadiadau a roddir ar dudalennau’r Safle. Os bydd gwrthdaro, bydd y telerau ac amodau ac ymwadiadau a roddir ar dudalen y Safle yn drech na’r Telerau ac Amodau hyn.
Ni roddir hawl i chi (ac ni fyddwch yn cynorthwyo eraill) i sefydlu dolenni o’ch gwefannau eich hun i’r Safle (p’un ai drwy gyswllt hyperdestun, dolenni dwfn, fframio, tagio neu fel arall) heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan SgiliauAdeiladu y medrwn, ar ein disgresiwn llwyr, a heb roi rheswm, ei roi neu beidio ei roi. - Eiddo deallusol
Mae cynnwys y Safle yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint, hawliau nod masnach, hawliau cronfa data, hawliau patent, hawliau dyluniad ac unrhyw destun, graffeg, sain, fideo neu ddelweddau, cynnwys, meddalwedd, data a gwybodaeth arall. Medrwch chi wasgnodi, lawrlwytho neu gadw detholiadau o’r Safle dros dro ar gyfer eich gwybodaeth bersonol eich hun yn unig.
Rydym ni yn eich caniatau i chi gael mynediad i’r Safle hwn yn gyfnewid am gytuno peidio addasu, newid neu greu unrhyw waith yn deillio o ddim o’r deunydd a gynhwysir ar y Safle.
Mae’r enwau, delweddau a logos yn dynodi SgiliauAdeiladu yn nodau masnach cofrestredig. Ni chaniateir copïo a defnyddio, mewn unrhyw fodd, logo, enw neu ddelweddau SgiliauAdeiladu heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan SgiliauAdeiladu. Medrwch ofyn am ganiatâd i ddefnyddio logo SgiliauAdeiladu drwy ein logo ar-lein/ffurflen cais am ddolen neu medrwch gyfeirio ymholiadau at: Communications & Marketing, ConstructionSkills, Bircham Newton, King’s Lynn, Norfolk PE31 6RH
Caiff pob nod masnach, enwau brand, enwau cynnyrch a theitlau a hawlfraint a ddefnyddir ar y Safle hwn eu defnyddio dan drwydded a roddir gan eu deiliaid perthnasol. Nid yw SgiliauAdeiladu yn rhoi caniatâd yng nghyswllt defnydd unrhyw un ohonynt a gall defnydd o’r fath gyfrif fel torri hawliau’r deiliad.
Nid oes gennych chi hawl (ac ni fyddwch yn cynorthwyo eraill) i sefydlu dolenni o’ch gwefannau eich hun i’r Safle (p’un ai drwy ddolen hyperdestun, dolenni dwfn, fframio, tagio neu fel arall) heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan SgiliauAdeiladu, a medrwn ni ar ein disgresiwn llwyr, a heb roi rheswm, roi caniatâd neu ei atal. - Eich defnydd o’r Safle
Mae defnydd o’r Safle ar eich risg chi yn unig. Ni fydd SgiliauAdeiladu yn atebol am unrhyw golled neu niwed o gwbl a sut bynnag y mae’n digwydd fel canlyniad i’ch defnydd neu ddibyniaeth ar yr wybodaeth a gynhwysir ar y Safle hwn i’r uchafswm graddau a ganiateir gan y gyfraith.
Ymhellach, ni fydd SgiliauAdeiladu yn atebol am:- Cywirdeb neu ddibynadwyedd yr wybodaeth neu gynnwys y Safle
- Problemau’n cynnwys cydnawsedd a difrod neu lygru eich caledwedd, meddalwedd neu osodwaith
- Sicrwydd y Safle
- Ymyriad yn argaeledd a chamgymeriadau’r Safle
- Cynnwys y Safle yn methu cyflawni eich gofynion, neu
- Cywirdeb, ymarferoldeb neu berfformiad unrhyw feddalwedd trydydd parti a all gael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r Safle.
Ni fedrir gwarantu fod negeseuon a anfonir dros y Rhyngrwyd yn hollol ddiogel gan y gallant fod yn agored i ryngdoriad, colled neu newid. Nid ydym ni yn gyfrifol amdanynt ac ni fyddwn ni yn atebol i chi neu unrhyw un arall am unrhyw ddifrod neu fel arall mewn cysylltiad gydag unrhyw neges a anfonir gennych chi neu unrhyw neges a anfonir gennym ni atoch chi dros y Rhyngrwyd. - Cystadlaethau a Rafflau
Gall SgiliauAdeiladu o bryd i’w gilydd gynnal cystadleuaeth, rafflau rhad ac am ddim a hyrwyddiadau ar y Safle hwn. Bydd telerau ac amodau gwahanol ar y rhain a fydd ar gael adeg cystadlaethau o’r fath. - Siop SgiliauAdeiladu
Mae hyn yn amodol ar delerau ac amodau ychwanegol sydd ar gael o Cyhoeddiadau SgiliauAdeiladu. - Firysau
Er bod SgiliauAdeiladu yn gwneud pob ymgais resymol i gau firysau o’i Safle, ni all sicrhau hynny ac ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled, ymyriad neu ddifrod i’n data ni neu’ch system gyfrifiadurol i chi a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o’r Safle.
Chi sydd â’r cyfrifoldeb llwyr am ddiogeliad digonol a chadw copi wrth gefn ar ddata a/neu offer ac am gynnal mesurau rhagofalu rhesymol a phriodol i sganio am firysau cyfrifiadurol neu nodweddion dinistriol. Felly, argymhellir eich bod yn cymryd pob mesur diogelu priodol cyn lawrlwytho gwybodaeth o’r Safle. - Gwefannau Trydydd Parti
Mae’r Safle yn rhoi dolenni i wefannau neu wasanaethau eraill a ddarperir gan sefydliadau trydydd parti ar gyfer dibenion gwybodaeth yn unig. Os ydych yn cyrchu’r gwefannau hynny drwy’r dolenni rydych chi’n gadael y Safle a ni fydd SgiliauAdeiladu yn gyfrifol na’n atebol am gynnwys neu drafodion y medrwch eu cael gyda’r trydydd partïon hynny.
Ni chaiff unrhyw gadarnhad neu gymeradwyaeth o unrhyw drydydd parti neu eu cyngor, barn, gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaeth ei fynegi neu ei awgrymu gan unrhyw wybodaeth ar y Safle. - Diogelu Data
Gweler ein Datganiad Preifatrwydd. - Cyfraith Llywodraethu ac Awdurdodaeth
Caiff y Telerau a’r Amodau hyn eu llywodraethu gan a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru a bydd gan Lysoedd Lloegr awdurdodaeth lwyr yng nghyswllt unrhyw anghydfod a all godi. - Cwestiynau a Chwynion
Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth ansawdd uchel, hygyrch ac ymatebol i bob defnyddiwr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion yn cyfeirio at y Safle, cysylltwch â ni mewn ysgrifen yn: Call Centre, ConstructionSkills, Bircham Newton, King’s Lynn, Norfolk PE31 6RH
E-bost: call.centre@cskills.org.
