Rownd Derfynol Adeiladu Sgiliau (SkillBuild) 2010

09 Awst 2010

Adeiladu Sgiliau (SkillBuild) yw cystadleuaeth sgiliau fwyaf y DU a’r un sydd wedi parhau hiraf ac yn 2010 caiff y rownd derfynol genedlaethol ei chynnal yng Nghanolfan Sgiliau Adeiladu Coleg Menai yn Llangefni, Ynys Môn.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau am 9yb ar ddydd Mercher, 8fed Medi. Bydd gan y cystadleuwyr tan ganol dydd, ddydd Gwener 10fed Medi i ddangos eu sgiliau trwy gynhyrchu gwaith wedi’i seilio mor gywir â phosibl ar luniau a ddatgelir ar ddechrau’r gystadleuaeth.

Mae croeso i ymwelwyr ddod i weld y gystadleuaeth - ac i roi cynnig ar y gwahanol sgiliau adeiladu yn yr ardal arbennig dan oruchwyliaeth.

Mae’r rownd derfynol yn gorffen gyda chinio gwobrwyo mawreddog yn y brif arena yn Venue Cymru, yn Llandudno. Cliciwch yma i gael gwybodaeth ar archebu a phrynu tocynnau.

Mae digon o lefydd i aros yn Llandudno sydd yn agos i leoliad y cinio gwobrwyo a fydd yn siwtio pob cyllideb. Mae hefyd digon o lefydd i aros yn agos i lety’r cystadleuwyr ym Mangor ac i leoliad y gystadleuaeth yn Llangefni.