Amdanom ni
Fel Bwrdd Hyfforddi Diwydiant mae CITB-SgiliauAdeiladu yn casglu lefi ac yn cynnig grantiau ar gyfer hyfforddiant i gyflogwyr sydd yng nghwmpas ac wedi cofrestru gyda CITB—SgiliauAdeiladu.
Fel Cyngor Sgiliau Sector, mae SgiliauAdeiadu yn gosod y safonau ar gyfer hyfforddiant a chymwysterau i greu gweithlu adeiladu o’r radd flaenaf. Mae SgiliauAdeiladu yn bartneriaeth rhwng CITB-SgiliauAdeiladu, y Cyngor Diwydiant Adeiladu a CITB Gogledd Iwerddon.
Mae’n cynnyrch a’n gwasanaethau yn cynnwys
cefnogaeth hyfforddi ar gyfer Aseswyr a Dilyswyr Adeiladu, dan frand Dyfarniadau CSkills
, mae hyn yn cynnwys Eportfolio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gymwysterau.
Mae’r cynnyrch a gwasanaethau eraill yn cynnwys:
- Prentisiaethau
- Prawf Iechyd a Diogelwch
- OSAT
- Diogelwch Safle Plws
- Cyhoeddiadau
- Cyrsiau Adeiladu Cenedlaethol
- Cynllun Hyfforddi a Datblygu
- Dullau gwella busnes yn cynnwys Buddsoddwyr mewn Pobl
- Datblygiad rheolaeth ac arweinyddiaeth
- Datblygiad technegol a phroffesiynol
Yn olaf, drwy bartneriaethau a chytundebau gyda sefydliadau eraill, mae SgiliauAdeiladu yn gweinyddu’r cynllun CSCS, yn darparu gwefan CAAlliance, cefnogaeth Adeiladu yr Alban a’r Academi Genedlaethol Sgiliau. Mae ein cynlluniau busnes yn amlinellu sut y bwriadwn gefnogi dymuniadau ac anghenion y diwydiant adeiladu ar gyfer 2008-2012.
Fel cam pwysig at hyfforddi gweithlu symudol, datblygwyd Academi Genedlaethol Sgiliau Adeiladu fel ymagwedd unigryw at ddysgu seiliedig ar brosiect.
Mae SgiliauAdeladu hefyd yn llunio a moderneiddio cymwysterau i sicrhau fod gan y bobl sy’n eu pasio yr amrediad llawn o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eu gwaith
